top of page

CROESO I HENBANT

Rydym wrthi’n brysur yn ceisio dysgu Cymraeg ond mae’n broses maith ac ara’ deg. Dyma grynodeb o’n gwaith am rŵan nes inni ddod yn fwy rhugl yn yr iaith. 

Yn Henbant mae dolydd, tir pori, coetir, llynnoedd a hefyd golygfeydd godidog o’r môr a’r mynyddoedd. Ar hyn o bryd rydym yn tyfu llysiau a magu anifeiliaid ar gyfer cig ac wyau ac yn bwriadu cynhyrchu llefrith cyn hir hefyd – hyn i gyd ar raddfa atgynhyrchiol fach er mwyn cynnig bwyd a chynnyrch i ymwelwyr y ffarm a thrigolion y gymuned. 

Rydym yn defnyddio dulliau Paramaethu, Rheolaeth Holistig, a rhai hen ffyrdd mwy traddodiadol hefyd, i fynd ati i gynnal fferm atgynhyrchiol. Ein nod ar y cyfan ydy cynhyrchu pridd a bwyd a dod â’r gymuned ynghyd. 

Mae Henbant yn ganolfan cynhyrchu ond mae hefyd yn le gall bobl ymweld ag o am hoe fach i feddwl am yr hyn sy’n bwysig yn y byd sydd ohoni a beth sydd angen inni ei gynnig yn ôl i’r byd. 

Bu inni fynd ati i gynnal cyrsiau yn ymdrin â pharamaethu, ffeltio a gwaith coed gwyrdd ac rydym yn awyddus i gynnig mwy o’r cyrsiau hyn a rhai eraill tebyg hefyd. Ein gobaith ydy denu mwy o drigolion yr ardal i fanteisio ar y cyrsiau yn ogystal â chynnal y cyrsiau. Fe fuasem ni wrth ein bodd yn clywed eich syniadau chi. 

Bu Jenny a minnau yn chwilio am y lle perffaith er mwyn tyfu bresych a magu plant am sawl blwyddyn a minnau yn chwilio am rywle imi fedru dadbacio fy mag, plannu fy enaid yn y pridd a medru adnabod a bod ymysg pob nyth adar (ac unrhyw fywyd gwyllt eraill) am byth bythoedd… Dyma’r union le inni. 
Dydyn ni ond newydd gyrraedd ac mae taith faith o’n blaenau ond rydan ni wedi cychwyn ar ein taith o leiaf.

O.N. Os hoffech chi weld y wefan gyfan yn Gymraeg, rhowch wybod inni. Fe fuasem ar ben ein digon o dderbyn eich help. Hefyd, os ydych chi’n byw yn lleol ac yn hoff o’n gwaith, fe fuasem ni wrth ein bodd tasech chi’n fodlon cydweithio gyda ni.

bottom of page